Enghraifft o'r canlynol | is-etholiad Seneddol y Deyrnas Unedig |
---|---|
Dyddiad | 1 Awst 2019 |
Cynhaliwyd isetholiad ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed i ethol Aelod Seneddol ar gyfer Senedd y Deyrnas Gyfunol ar 1 Awst 2019. Galwyd yr isetholiad ar ôl i Chris Davies, a oedd wedi dal sedd y Ceidwadwyr ers etholiad cyffredinol 2015, gollir'r sedd drwy ddeiseb.[1][2] Enillwyd yr isetholiad gan Jane Dodds o'r Democratiaid Rhyddfrydol.
Mae sedd gyda'r un enw (Brycheiniog a Sir Faesyfed) a'r un ffiniau'n bodoli i ethol Aelod Cynulliad i Gynulliad Cymru ac a gynrychiolwyd yn 2019 gan Kirsty Williams o'r Democratiaid Rhyddfrydol (ers ei chreu ym 1999).[3]
Roedd yr isetholiad o bwys mawr drwy'r Deyrnas Gyfunol, gan ei bod yng nghanol stormydd gwleidyddol Brexit. Mae'r etholaeth yn gorwedd o fewn sir Powys, ac yn etholiad Senedd Ewrop 2019, y Blaid Brexit enillodd y nifer fwyaf o bleidleisiau.[4] Roedd Boris Johnson hefyd newydd gael ei benodi'n Brif weinidog gyda mwyafrif o ddau.
Cefnogwyd Dodds, ymgeisydd y Democratiaid Rhyddfrydol, hefyd gan Plaid Cymru, y Gwyrddion, Change UK a'r Blaid Adnewyddu. Dywedodd arweinwyr Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol ei bod hi'n bwysig fod pleidiau sydd am weld y DU yn aros yn o'r Undeb Ewropeaidd yn "cydweithio".[5]